Mae llesiant a hyder ein cymunedau mewn peryg, a’r gymuned greadigol yn gwegian.

 

Fel pedwar cwmni theatr cymunedol Cymraeg, hoffem dynnu eich sylw at bwysigrwydd a buddion cyhoeddus ein darpariaeth. Tra’n bryderus am effaith Covid 19 ar ein cwmnïau yn y tymor byr a’r angen brys i’w cynnal mewn cyfnod dyrys, mae’r effaith hir dymor yn peri gofid sylweddol wrth i ni ddechrau deall yr effaith andwyol ar ein cymunedau a’r economi.

 

Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Cynghorau lleol am eu cefnogaeth yn y cyfnod yma, ac wrth edrych ymlaen ‘rydym ni fel rhywdwaith o gwmnïau cymunedol yn nodi ein brwdfrydedd i chwarae rôl allweddol   yn adferiad ein cymunedau trwy sicrhau arlwy celfyddydol i bob cornel o Gymru.

 

Sefydlwyd Cwmnïau Theatr Bara Caws, Frân Wen, Arad Goch a na nÓg ddegawdau yn ôl er mwyn diwallu   anghenion cynulleidfaoedd o bob math ar gyfer cynnyrch theatrig hygyrch yn yr iaith Gymraeg. Erbyn hyn mae gennym ni fel pedwar cwmni dros 100 mlynedd o brofiad rhyngom o greu a theithio cynyrchiadau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r ffaith ein bod oll yn parhau mewn bodolaeth a’n denu cyfranogwyr yn eu miloedd, yn dyst i’r ffaith bod ein harlwy yn parhau yn berthnasol ac yn taro tant â’n cynulleidfaoedd.

 

Gydag amrywiaeth eang o fewn gwaith y pedwar cwmni, a phob un yn targedu gwahanol gynulleidfaoedd penodol, yr un yw’r nod a’r uchelgais, sef darparu a chyflwyno gwaith theatrig o’r radd flaenaf i’r trawsdoriad ehangaf o’n cymunedau yn eu cymunedau - gwaith sy’n cyffroi, sy’n ysbrydoli ac yn diddanu. Yn greiddiol i hyn oll yw’n hadnabyddiaeth a’n gwerthfawrogiad o’r cysylltiadau cymunedol sydd wedi eu meithrin yn ofalus ers blynyddoedd, a bydd cynnal eu ffydd ynom ni, er mwyn i ni barhau i’w gwasanaethu, yn hollbwysig.

 

’Rydym yn falch o gyflogi nifer fawr o ymarferwyr llawrydd bob blwyddyn, gan ddod ag artistiaid a chymunedau at   ei gilydd ynghyd â chydweithio ag artistiaid mewn ardaloedd gwledig. Mae hyn o fantais i ardaloedd ledled y wlad,   a hefyd yn sicrhau fod y sector yn gyffredinol yng Nghymru yn ffynnu.

 

Gallwn ymfalchïo yn y rôl ‘rydym yn ei chwarae ym mwriad Llywodraeth Cymru o gynyddu siaradwyr Cymraeg o bob oed - miliwn erbyn 2050 - ac wrth i’n gwaith gefnogi a chyflawni prif amcanion y Ddeddf Llesiant, deddf feiddgar a blaengar sy’n cynnig cyfle gwych i’r celfyddydau chwarae rhan allweddol ym mhob agwedd o fywyd.

 

‘Rydym yn grediniol fod yr hyn a gynigiwn ni yn greiddiol nid yn unig i ecoleg y theatr Gymraeg, ond i wead y genedl yn gyffredinol. Mae gennym oll orffennol gwerthfawr a chyfoethog, a theimlwn yn angerddol bod gennym gyfraniad anhepgorol i’w wneud yn y dyfodol. Rhaid parhau â’r genadwri fod y celfyddydau ar gael i bawb a’n dyletswydd ni fel cwmnïau cymunedol yw parhau i fynd â theatr Gymraeg i galon cymunedau Cymru.

 

Taer erfyniwn arnoch i gefnogi ein hachos yn y trafodaethau anodd sydd o’n blaenau ac ystyried yn wirioneddol sut y gellir manteisio i’r eithaf ar yr hyn a gynigiwn fel cwmnïau cymunedol i gynorthwyo gydag adferiad ein cymunedau.

 

Yn ddidwyll

 

Bara Caws Frân Wen Arad Goch na nÓg